Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017
Amser:
09.33 -
11.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4415
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Suzy Davies AC (yn lle Angela Burns AC) Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Simon Dean, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC, Julie Morgan AC ac Angela Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Angela Burns AC.
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a'u swyddogion.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor i egluro a yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn caniatáu cyfuno o ffynonellau eraill mewn ffordd debyg i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
2.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor yn amlinellu'r cynigion y mae wedi eu cymeradwyo ynghylch sut y bydd byrddau iechyd yn defnyddio'r buddsoddiad ychwanegol i leihau amserau aros.
3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.
3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.
3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol mewn perthynas â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.
3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon o ran amseroedd aros canser.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.